SL(5)276 - Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Cymru) 2018

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn ategu, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi Rheoliad (UE) 2016/1012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyflyrau sootechnegol ac achyddol ar gyfer bridio, masnachu a mynd i mewn i’r Undeb o ran anifeiliaid bridio pur, moch bridio hybrid moch, a’u cynhyrchion cenhedlol ("y Rheoliad Bridio Anifeiliaid").

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) (Cymru) 2006 a Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Cymru) 2015. Maent hefyd yn diwygio Rheoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Cymru) 2011 i wneud darpariaeth mewn perthynas â gwiriadau ar y ffin mewn rhai amgylchiadau o dan y Rheoliad Bridio Anifeiliaid.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu ac yn ategu amrywiol gyfrifoldebau’r UE mewn perthynas â chyflyrau sootechnegol ac achyddol, ac felly bydd y Rheoliadau hyn yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.

Mae’r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin yn nodi bod “amaethyddiaeth – sootech” yn faes polisi sy’n debygol o fod yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan adran 12 o Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018. Felly, mae’r gyfraith sy’n dod o dan y Rheoliadau hyn yn debygol o fod yn faes o gyfraith yr UE a gaiff ei rewi tra bod fframweithiau cyffredin yn cael eu rhoi ar waith.

 

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

20 Tachwedd 2018